Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), y Pwyllgor Busnes sy’n gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Senedd, gan gynnwys unrhyw gynigion ar gyfer ail-wneud y Rheolau Sefydlog neu eu diwygio.
Mae'r adroddiad hwn yn cynnig diwygiad i Reol Sefydlog 1.3 ynghylch y diffiniad o grwpiau gwleidyddol.
Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo'r cynigion i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog fel yn Atodiad A. Mae'r Rheolau Sefydlog diwygiedig, os cânt eu cymeradwyo, yn Atodiad B.
Nid oes gan y cynnig hwn gefnogaeth unfrydol y Pwyllgor Busnes. Gwnaethpwyd y cynnig gan Rebecca Evans AS (y Trefnydd) ac fe’i cefnogwyd gan Sian Gwenllian AS sydd, yn unol â Rheol Sefydlog 11.5(ii), gyda'i gilydd yn cynrychioli 39 pleidlais ar y Pwyllgor. Nid yw Mark Isherwood AS na Caroline Jones AS, sy'n cynrychioli cyfanswm o 14 pleidlais, yn cefnogi'r cynnig; maent yn cefnogi cadw’r Rheol Sefydlog bresennol. Mae'r adroddiad hwn yn nodi'r ddwy set o safbwyntiau.
2. Diwygiad arfaethedig i Reol Sefydlog 1.3
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 1.3, a nodiadau esboniadol
Atodiad B – Rheol Sefydlog 1, fel y’i diwygiwyd
1. Mae adran 24(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd wneud darpariaeth yn y Rheolau Sefydlog ar gyfer penderfynu a yw unrhyw Aelod yn perthyn i grŵp gwleidyddol, ac os felly, i ba grŵp gwleidyddol. Mae'n darparu y caiff y Rheolau Sefydlog gynnwys darpariaeth ar gyfer nifer yr Aelodau y mae'n rhaid iddynt berthyn i grŵp gwleidyddol er mwyn iddo gael ei gydnabod fel grŵp.
2. Ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog 1.3 yn nodi fel a ganlyn:
At ddibenion y Ddeddf, grŵp gwleidyddol yw:
(i) grŵp o Aelodau sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a chanddo o leiaf dri Aelod yn y Senedd; neu
(ii) tri neu fwy o Aelodau sydd, a hwythau heb fod yn aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig a gynhwysir yn Rheol Sefydlog 1.3(i), wedi hysbysu’r Llywydd eu bod yn dymuno cael eu trin fel grŵp gwleidyddol.[1]
3. Mae Rheol Sefydlog 1.4 yn datgan:
Y Llywydd sydd i benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw Aelod yn perthyn i grŵp gwleidyddol neu i ba grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn.[2]
5. Mae'r diffiniad o grwpiau yn effeithio’n eang ar weithrediad y Senedd, gan gynnwys mewn perthynas ag aelodaeth Comisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Busnes, trefnu busnes y Cyfarfod Llawn, ac aelodaeth pwyllgorau'r Senedd a'r broses o graffu ar ddeddfwriaeth.
6. Yn ystod y Bumed Senedd, mae aelodaeth y grwpiau gwleidyddol a’r broses o ffurfio a diddymu’r grwpiau hyn wedi bod yn fwy cyfnewidiol nag erioed o’r blaen. Roedd newidiadau ym maint cymharol y ddau grŵp mwyaf yn y Senedd nad oedd ganddynt rôl weithredol, newidiodd rhai Aelodau eu hymrwymiad i blaid neu grŵp nifer o weithiau, ac mae rhai grwpiau wedi’u diddymu a rhai newydd wedi’u sefydlu.
7. Mae’r rhan fwyaf o'r Pwyllgor Busnes o'r farn bod y lefel hon o gyfnewidioldeb yn annymunol ac y dylid mynd i'r afael â hyn drwy ddiwygiad i Reol Sefydlog 1.3, fel y nodir yn Atodiad A.
8. Nodir y canllawiau cysylltiedig arfaethedig i'r Llywydd eu defnyddio wrth benderfynu a ellid ffurfio grŵp o dan Reol Sefydlog 1.3(ii) yn Atodiad C.
9. Mae’r Rheolwyr Busnes sydd o blaid y diwygiad o'r farn y byddai'n sicrhau y byddai gan grwpiau’r Senedd fandad democrataidd clir fel rheol, am eu bod yn cynnwys Aelodau o blaid wleidyddol gofrestredig a oedd wedi ennill sedd neu seddi yn yr etholiad blaenorol. Maent o’r farn y byddai hyn yn hwyluso'r Senedd wrth adlewyrchu barn wleidyddol y rheini a bleidleisiodd yn etholiad diweddaraf y Senedd.
10. Mae’r Rheolwyr Busnes sydd o blaid y diwygiad hefyd o'r farn y byddai'r Rheol Sefydlog ddiwygiedig yn creu mwy o sefydlogrwydd i'r Senedd, gan y byddai'n cyfyngu ar ffurfio grwpiau gwleidyddol newydd, heblaw mewn amgylchiadau eithriadol.
11. Mae’r Rheolwyr Busnes sydd o blaid y diwygiad hefyd o'r farn y byddai diwygio Rheol Sefydlog 1.3(ii) gan roi disgresiwn i'r Llywydd ganiatáu i grwpiau gael eu ffurfio yn sicrhau bod cyfansoddiad gwleidyddol y Senedd yn ddigon hyblyg i ymateb i amgylchiadau eithriadol, gan nodi 'rhaniad mewn plaid wleidyddol gofrestredig, argyfwng cenedlaethol neu ddigwyddiad mawr sy’n newid ymrwymiadau gwleidyddol’ fel enghreifftiau.
12. Mae’r Rheolwyr Busnes sy'n gwrthwynebu'r diwygiad o'r farn y byddai'n rhwystr i fynegiant rhydd a democrataidd barn wleidyddol yr Aelodau rhwng etholiadau'r Senedd, pe bai eu safbwynt yn gwyro oddi wrth safbwynt eu grŵp yn ystod tymor Senedd. Nid ydynt o'r farn mai rôl Rheolau Sefydlog y Senedd yw cyfyngu ar allu Aelod i adael ei blaid a'i grŵp, nac i ffurfio grŵp newydd pe bai’n dymuno gwneud hynny. Yn hytrach, maent o'r farn mai mater i'r etholwyr yw dwyn Aelodau i gyfrif am eu gweithredoedd mewn etholiadau dilynol.
13. Mae’r Rheolwyr Busnes sy'n gwrthwynebu'r diwygiad hefyd o'r farn y gallai clymu strwythur y grwpiau yn gaeth i ganlyniadau etholiad blaenorol y Senedd, dros gyfnod o bum mlynedd, olygu y bydd y Senedd yn colli cysylltiad â’r dirwedd wleidyddol yng Nghymru, ac yn llai perthnasol iddi. Maent o'r farn bod y digwyddiadau gwleidyddol yng Nghymru a'r DU yn ystod y Senedd gyfredol, a'r gallu i ddarparu ar gyfer newid y grwpiau, yn dangos bod y Rheolau Sefydlog presennol yn gweithio'n dda wrth ddarparu fframwaith ar gyfer cynnwys ac adlewyrchu dynameg wleidyddol yn y Senedd.
14. Gwnaeth y Rheolwyr Busnes a oedd yn gwrthwynebu'r diwygiad wneud hynny oherwydd byddai'n atal Aelodau annibynnol rhag gallu ffurfio grŵp yn awtomatig. Er y gallai Aelodau annibynnol fod â safbwyntiau gwleidyddol cyferbyniol, mae’r Rheolwyr Busnes sy'n gwrthwynebu'r diwygiad o'r farn y gallai fod ganddynt digon o gredoau cyffredin ac amcanion a rennir i ffurfio grŵp at ddibenion busnes y Senedd. Fe wnaethant nodi hefyd fod gan lawer o seneddau eraill ddarpariaethau sy'n caniatáu i Aelodau annibynnol ffurfio grwpiau.
15.
16. Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 16 Mawrth 2021. Gwahoddir y Senedd i gymeradwyo’r cynigion yn Atodiad B.
Atodiad A – Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 1.3, a nodiadau esboniadol
Grwpiau gwleidyddol |
Cadw’r pennawd |
1.3 At ddibenion y Ddeddf, grŵp gwleidyddol yw:
(i) grŵp
a chanddo o leiaf dri Aelod
(ii) tri neu fwy o
Aelodau, |
Diwygio'r Rheol Sefydlog Bydd y diwygiadau arfaethedig yn cael yr effaith a ganlyn: § Dim ond grwpiau sy’n cynnwys Aelodau sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd sedd neu seddi yn etholiad cyffredinol diweddaraf y Senedd a gaiff eu creu yn ‘awtomatig’; § Galluogi tri neu fwy o Aelodau nad ydynt yn bodloni'r meini prawf yn Rheol Sefydlog 1.3(i) i gael eu cydnabod fel grŵp os yw'r Llywydd yn fodlon bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys. |
1.3A Rhaid i'r Llywydd gyhoeddi canllawiau i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar ddehongli a chymhwyso Rheol Sefydlog 1.3(ii). |
Cyflwyno Rheol Sefydlog Newydd Mae'r Rheol Sefydlog newydd yn ei gwneud yn ofynnol i'r Llywydd gyhoeddi canllawiau ysgrifenedig i'r Aelodau ar ddehongli Rheol Sefydlog 1.3(ii). Yn unol â Rheol Sefydlog 6.17, rhaid cyhoeddi'r canllawiau hynny ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes. |
1.4 Y Llywydd sydd i benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw Aelod yn perthyn i grŵp gwleidyddol neu i ba grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn. |
Cadw'r Rheol Sefydlog Cynhwysir y Rheol Sefydlog er gwybodaeth. |
Atodiad B – Rheol Sefydlog 1, fel y’i diwygiwyd
1.3 At ddibenion y Ddeddf, grŵp gwleidyddol yw:
(i) grŵp a chanddo o leiaf dri Aelod sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd o leiaf un sedd yn etholiad blaenorol y Senedd; neu
(ii) tri neu fwy o Aelodau, nad ydynt yn bodloni’r meini prawf yn Rheol Sefydlog 1.3(i), sydd wedi hysbysu’r Llywydd eu bod yn dymuno cael eu trin fel grŵp gwleidyddol, ac wedi bodloni’r Llywydd bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys.
1.3A Rhaid i'r Llywydd gyhoeddi canllawiau i'r Aelodau o dan Reol Sefydlog 6.17 ar ddehongli a chymhwyso Rheol Sefydlog 1.3(ii).
1.4 Y Llywydd sydd i benderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch a yw unrhyw Aelod yn perthyn i grŵp gwleidyddol neu i ba grŵp gwleidyddol y mae’n perthyn.
Atodiad C – Canllawiau i'w cynnwys yng nghanllawiau'r Llywydd ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd a gyhoeddwyd o dan Reol Sefydlog 6.17
Mae Rheol Sefydlog 1.3(i) yn diffinio grŵp gwleidyddol fel “grŵp a chanddo o leiaf dri Aelod sy’n perthyn i’r un blaid wleidyddol gofrestredig a enillodd o leiaf un sedd yn etholiad blaenorol y Senedd”.
Mae Rheol Sefydlog 1.3(ii) yn darparu y caiff y Llywydd, o dan amgylchiadau eithriadol, gydnabod tri Aelod nad ydynt yn bodloni'r meini prawf yn Rheol Sefydlog 1.3(i) fel grŵp gwleidyddol.
Mae enghreifftiau o amgylchiadau eithriadol yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) rhaniad mewn plaid wleidyddol gofrestredig, argyfwng cenedlaethol, neu ddigwyddiad mawr sy'n newid ymrwymiadau gwleidyddol. Gall is-etholiadau hefyd newid cyfansoddiad gwleidyddol y Senedd mewn ffordd sy'n ei gwneud yn briodol cydnabod grŵp newydd.